Cofnodion Cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Dlodi Tanwydd ac Effeithlonrwydd Ynni

Noddir gan Mark Isherwood AS

 

Dyddiad: 13 Chwefror 2023, 11.00 – 12.30

Lleoliad: Zoom

 

Yn bresennol

 

Deiliaid Swyddi’r Grŵp Trawsbleidiol

Mark Isherwood AS (Cadeirydd)

Ben Saltmarsh (Ysgrifenyddiaeth, NEA)

Sioned Williams AS

Helen Boggis (ar ran Vikki Howells AS)

 

Rhanddeiliaid

Michael Potter (NEA), Maya Fitchett (NEA), Matt Copeland (NEA), Claire Durkin (Ymddiriedolwr NEA), Julie James AS (Gweinidog Newid Hinsawdd), Beth Taylor (Senedd), Ken Moon (ar ran Heledd Fychan AS), Gavin Dick (Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl), Meilyr Tomos (Cyngor Gwynedd), Simon Lannon (Prifysgol Caerdydd), Elaine Robinson (Prifysgol Caerdydd), Joanne Patterson (Prifysgol Caerdydd), David Kirby (y Sefydliad Adeiladu Siartredig), Joanna Seymour (Cymru Gynnes), Jonathon Crosson (Cymru Gynnes), Jenny Russon (Cynllun Tystysgrifau Microgynhyrchu), David Cowdrey (Cynllun Tystysgrifau Microgynhyrchu), Claire Pearce-Crawford (Cartrefi Melin), David Wallace (Cartrefi Melin), Kate Gilmartin (Cymdeithas Ynni Dŵr Prydain), Tim Thomas (Propertymark), y Parchedig James Tout (Yr Eglwys yng Nghymru), Faye Patton (Gofal a Thrwsio), Jo Harry (Gofal a Thrwsio), Becky Ricketts (Gofal a Thrwsio), William Jones (Cyngor ar Bopeth), Lindsey Kearton (Cyngor ar Bopeth), Jack Wilkinson-Dix (yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni), Joseph Carter (Asthma a’r Ysgyfaint), Llŷr Randles (Cyngor Caerdydd), Siôn Rockley (Cyngor Caerdydd), Bethan Sayed (Climate Cymru), Rupert Pigot (Ynni Clyfar Prydain), Kate Lowther (Coleg Brenhinol y Seiciatryddion), Haf Elgar (Cyfeillion y Ddaear Cymru), Crispin Jones (Gwerin Management), Ceri Cryer (Age Cymru), Natasha Wynne (Marie Curie), Cerys Clark (y Sefydliad Tai Siartredig), Matt Dicks (y Sefydliad Tai Siartredig), Jim McKirdle (Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru), Bryony Haynes (Cartrefi Cymunedol Cymru), Rebecca Brown (Ofgem), Nigel Winnan (Wales and West Utilities), Rob King (Sefydliad Bevan), Nina Ley (Llywodraeth Cymru), Maureen Howell (Llywodraeth Cymru), Sandy Hore-Ruthven (Hafren Gwy), Frazer Richards (Llywodraeth Cymru), Tanya Wigfall (Llywodraeth Cymru)

 

Ymddiheuriadau

Jocelle Lovell, Cwmpas

Amy Dutton, Cyngor ar Bopeth

 

Crynodeb o'r drafodaeth

 

1.         Croeso a chyflwyniadau

 

•           Mark Isherwood AS (Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol): Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol cyn rhoi trosolwg o'r agenda ar gyfer y cyfarfod. Mae Llywodraeth Cymru yn cynllunio cynllun effeithlonrwydd ynni newydd sydd wedi’i arwain gan alw ac sy’n canolbwyntio ar gartrefi mewn tlodi tanwydd. Disgwylir i’r cynllun hwn fod yn weithredol cyn y gaeaf nesaf. Mae'r cyfarfod hwn felly’n gyfle i ofyn i'r Gweinidog Newid Hinsawdd am ei chynlluniau, yn ogystal â pharhau i fyfyrio ar yr argyfwng presennol.

 

2.         Diweddariad

 

•           Ben Saltmarsh (Pennaeth Cymru, NEA, ac Ysgrifennydd y Grŵp Trawsbleidiol): Cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau diweddar. Cyhoeddwyd Monitor Tlodi Tanwydd yr NEA ar gyfer 2021-22 ym mis Ionawr, gan ganolbwyntio ar yr argyfwng ynni a'i effeithiau ar aelwydydd sydd mewn tlodi tanwydd, sydd ag incwm isel ac sy’n agored i niwed. Mae'r unigolion y mae’r argyfwng yn effeithio arnynt yn benodol yn cynnwys pobl sydd â nifer o elfennau cronnus sy’n eu gwneud yn fregus a phobl sydd â mesuryddion rhagdalu. Mae sefydliadau sy'n cefnogi aelwydydd sy'n ymdrin â'r argyfwng bellach yn wynebu her ddigynsail; mae’n rhaid cael cymorth dwfn wedi'i dargedu.

•           Mae'n ddealladwy bod y ffocws wedi bod ar reoli’r argyfwng - erbyn hyn, mae’n rhaid darparu atebion hirdymor a fydd yn mynd i'r afael ag achosion sylfaenol yr argyfyngau lluosog. Mae prisiau cyfanwerthu yn gostwng ond disgwylir i filiau ynni fod ddwywaith y cyfartaledd hanesyddol am weddill 2023. Mae ymyl y dibyn yn nesáu ym mis Ebrill, pan fydd biliau’n codi wrth i lefel y Warant Pris Ynni gynyddu ac wrth i’r Cynllun Cymorth Biliau Ynni a Chynllun Cymorth Tanwydd Cymru ddod i ben. Gwnaed galwadau ar y cyd i: ohirio'r cynnydd o 20 y cant yn y Warant Pris Ynni; darparu cymorth wedi'i dargedu'n well; a chyflwyno tariff cymdeithasol o fis Ebrill 2024.

 

•           Y wybodaeth ddiweddaraf am fesuryddion rhagdalu: bydd cyflenwyr yn atal camau gorfodol i osod mesuryddion rhagdalu. Mae llysoedd ynadon wedi cael gorchymyn i roi'r gorau i gyhoeddi gwarantau ar gyfer gosod mesuryddion rhagdalu. Mae'r camau hyn yn angenrheidiol ond yn annigonol; mae’n rhaid cynnal adolygiad sylfaenol o’r trefniadau rhagdalu. Dylai’r adolygiad hwn gynnwys lleihau nifer y mesuryddion rhagdalu traddodiadol, gwneud tariffau rhagdalu yn decach ac ymdrin â’r dyledion sy’n arwain at osod mesuryddion rhagdalu. Tynnwyd sylw at ddeiseb gan Climate Cymru yn galw ar y Senedd i gynnal ymchwiliad i’r sgandal mesuryddion rhagdalu.

•           Tynnwyd sylw at gyfarfod Fforwm Tlodi Tanwydd Cymru, y disgwylir iddo gael ei gynnal ddydd Mercher 8 Mawrth.

 

3.         Cadw pobl yn y tywyllwch

•           Lindsey Kearton (Cyngor ar Bopeth Cymru): Mae Cyngor ar Bopeth Cymru bellach yn helpu’r nifer fwyaf erioed o bobl na allant fforddio mesuryddion rhagdalu, gan weld mwy o’r bobl hyn y llynedd nag yn ystod y 10 mlynedd diwethaf at ei gilydd. Tynnodd arolwg o ddefnyddwyr mesuryddion rhagdalu yng Nghymru sylw at ymddygiadau ac effeithiau a oedd yn peri pryder wrth i’r bobl hyn geisio ymdopi â’r sefyllfa. Mae nifer gynyddol o bobl yn cael eu gorfodi i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu o ganlyniad i anallu i dalu biliau. Rhannwyd sylwadau ar yr hyn sydd angen digwydd: rhoi’r gorau i osodiadau gorfodol am gyhyd ag sydd angen; Ofgem a chyflenwyr i atal newid mesuryddion clyfar o bell; cyflenwyr i archwilio a yw mesuryddion rhagdalu yn ddiogel i bob cwsmer (a'u symud os nad ydynt); aelwydydd sy'n parhau ar fesuryddion rhagdalu i gael eu cyfeirio'n glir at gymorth ychwanegol.

•           William Jones (Cyngor ar Bopeth Ceredigion): Ydy'r sgandal a'r wasg negyddol ynghylch mesuryddion rhagdalu yn cynyddu amheuon ynghylch mesuryddion clyfar yn fwy cyffredinol, lle mae pobl yn poeni y gallai hyn alluogi cyflenwyr i’w trosglwyddo i fesuryddion rhagdalu o bell? Roedd Ben Saltmarsh yn cytuno bod hyn yn peri pryder. Mae NEA yn galw am adolygiad sylfaenol o drefniadau rhagdalu, gan gynnwys rheolau cryfach a chamau gorfodi llymach. Dylai gwaharddiad dros dro ymestyn i gynnwys trosglwyddo o bell hyd nes y gellir sicrhau bod pob cyflenwr yn dilyn yr arfer cywir.

•           William Jones (Cyngor ar Bopeth Ceredigion): Dylid sôn am dlodi tanwydd fel un agwedd yn unig ar ddarlun ehangach o anghydraddoldeb a thlodi. Dywedodd Lindsey mai 2023 yw blwyddyn yr argyfwng dyled, ac mae angen inni edrych ar yr holl ffactorau sy’n cyfrannu at yr argyfwng presennol.

•           Bethan Sayed (Climate Cymru): A oes angen i ni adfer Cynllun Cymorth Tanwydd Cymru? Atebodd Lindsey fod gwaith modelu yn dangos bod y Cynllun Cymorth wedi atal pobl rhag sefyllfaoedd argyfyngus. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal lefel yr arian yn y Gronfa Cymorth Dewisol. Hefyd, mae angen mwy o fuddsoddiad arnom mewn mesurau effeithlonrwydd ynni, a dylai Llywodraeth Cymru gymryd y camau perthnasol ar fyrder (hynny yw, cyn y gaeaf nesaf).

•           Meilyr Tomos (Cyngor Gwynedd): Mae'r argyfwng hyd yn oed yn fwy difrifol i'r rhai sy'n gwresogi eu cartrefi oddi ar y grid.

 

4.         Blaenoriaethau presennol a sesiwn holi ac ateb gyda Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

 

•           Gwnaeth y Gweinidog sylwadau ar yr argyfwng costau byw: mae prisiau llawer o ddefnyddiau traul yn codi, ac mae hyn yn cael yr effaith fwyaf ar aelwydydd incwm isel. Mae’n amlwg nad yw’r system ynni yn dod â buddion i aelwydydd yng Nghymru.

•           Rhoddodd y Gweinidog drosolwg o’r gwaith sy’n cael ei wneud. O ran mesuryddion rhagdalu, mae’r Gweinidog yn annog Llywodraeth y DU i weithredu: cyfarfu ei thîm â chyflenwyr ynni ac Ofgem; aeth i un o gyfarfodydd bwrdd Ofgem i fynegi pryderon ynghylch gwarantau llys; ac ysgrifennodd at Ysgrifennydd Gwladol Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU ynghylch arfer gwael o ran gosodiadau gorfodol. Fodd bynnag, dim ond ychydig o ddylanwad sydd ganddi ar y farchnad ynni, felly mae’n canolbwyntio ar wella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi. Trwy'r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio, dyrannwyd £60 miliwn mewn grantiau. Caiff buddsoddiad ei sianelu drwy landlordiaid cymdeithasol ond bydd y cynllun yn ymestyn i'r sector rhentu preifat a pherchen-feddianwyr.

•           Mae dull ‘un ateb sy’n addas i bawb’ wedi achosi problemau enfawr: Mae’r stoc tai yng Nghymru ymhlith yr hynaf a’r mwyaf newydd Ewrop, gydag amrywiaeth enfawr rhwng y ddau begwn.

•           Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynllun cenedlaethol newydd a arweinir gan alw ac sy’n canolbwyntio ar dlodi tanwydd i ddisodli’r cynllun Nyth. Bydd y Llywodraeth hefyd yn dilyn dull integredig ar draws pob deiliadaeth a lefel incwm i ysgogi datgarboneiddio. Bydd y broses gaffael ar gyfer y cynllun hwn yn digwydd tua diwedd y flwyddyn hon. Bydd strategaeth bolisi arfaethedig, yn seiliedig ar ymgynghoriad 2021, gan adeiladu ar wersi a ddysgwyd o'r rhaglen flaenorol, yn cael ei chyhoeddi maes o law.

•           Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i nodi'r cymunedau sy'n wynebu'r her fwyaf o ran ynni ac i ddarparu datrysiadau sydd wedi’u seilio yn y gymuned; yn cefnogi’r broses o ddatblygu gweithlu medrus a chynyddu capasiti yn y gadwyn gyflenwi; yn sefydlu Canolfan Perfformiad Sero Carbon Net; yn gweithio gydag awdurdodau lleol i wneud y mwyaf o'r cyllid sydd ar gael (er enghraifft, trwy ECO4); ac yn sianelu cyllid preifat.

 

Sesiwn holi ac ateb gyda’r Gweinidog

 

•           Meilyr Tomos (Cyngor Gwynedd): A yw cynhyrchu pŵer yn lleol yn ateb i’r bobl sy’n wynebu’r tlodi tanwydd dyfnaf, sy’n ei chael hi’n anodd cael mynediad at gynlluniau a chymorth? Atebodd y Gweinidog fod Llywodraeth Cymru yn awyddus iawn i harneisio cynlluniau mewn cymunedau gwledig a meithrin dull gweithredu ar draws cymunedau, sy'n cynnwys edrych ar raglenni arloesol. Bydd yn dilyn dull sy’n canolbwyntio ar yr eiddo gwaethaf yn gyntaf.

•           William Jones (Cyngor ar Bopeth Ceredigion): A fydd y cynllun yn darparu cyngor holistaidd ar ynni yn ogystal â mesurau effeithlonrwydd ynni? Cafwyd cadarnhad gan y Gweinidog y byddai hyn yn digwydd, a nododd fod Llywodraeth Cymru hefyd yn bwriadu sefydlu canolbwynt i goladu cyngor a chaniatáu i bobl gael gafael arno’n ehangach.

•           Crispin Jones (Gwerin Management): A oes cyfle i awdurdodau lleol gael cyllid ar gyfer prosiectau arloesol ar raddfa fach? Dywedodd y Gweinidog fod Llywodraeth Cymru yn ariannu awdurdodau lleol yn y modd hwn a'i bod yn ceisio sicrhau bod y cyllid hwn yn cyd-fynd â mentrau lleol presennol; mae gwaith awdurdodau lleol yn hanfodol, ac maent wedi bod yn cynnal yr asesiadau ynni ar gyfer cymunedau.

•           Sandy Hore-Ruthven (Ynni Hafren Gwy): Rhan o’r rheswm y mae Llywodraeth y DU yn methu â chyrraedd targedau yw bod y targedau lluosog hyn yn gorgyffwrdd, sy’n arwain at fiwrocratiaeth ychwanegol. Dylai Cymru ddysgu o hyn a cheisio osgoi’r un sefyllfa. Cafwyd cadarnhad gan y Gweinidog y bydd y cynllun yn adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd o raglenni blaenorol yng Nghymru a’r DU. Mae gwersi o’r rhaglen ôl-ffitio er mwyn optimeiddio, er enghraifft, yn cynnwys beth sy'n gweithio ar gyfer pa dai a mathau o wres, a'r angen i gynnwys gwarantau a llwybrau ar gyfer gwneud iawn. Defnyddir asesiadau ôl-osod ar gyfer eiddo unigol (yn hytrach na thystysgrifau perfformiad ynni). Bydd gan y cynllun hwn dargedau clir, hawdd eu deall, yn gysylltiedig â sero net.

•           Jonathan Cosson (Cymru Gynnes): Bu’n rhan o’r gwaith o gyflwyno cynllun peilot ar gyngor ynghylch ynni ar ran Llywodraeth Cymru ond ni chafodd unrhyw adborth. Mae angen cyngor ar breswylwyr ar sut i ddefnyddio technolegau newydd er mwyn iddynt allu fanteisio arnynt. Roedd y Gweinidog yn cytuno, a dywedodd y byddai’n cyflwyno canolbwynt ar gyfer cyngor. Mae angen y cyngor cywir ar bobl ar gyfer eu cartrefi penodol nhw a dylid rheoli disgwyliadau. Gofynnodd y Gweinidog i Jonathon gysylltu’n uniongyrchol â hi i drafod yr adborth.

•           Joanne Patterson (Ysgol Bensaernïaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd): Sut mae'r Gweinidog yn sicrhau bod cynlluniau’n cyd-fynd â’i gilydd? Atebodd y Gweinidog y dylid rhannu’r hyn a ddysgwyd rhwng pob cynllun i sicrhau bod pawb yn cael y cyngor sydd ei angen arnynt.

•           Haf Elgar (Cyfeillion y Ddaear Cymru): Nododd y byddai cael copi ysgrifenedig o sylwadau agoriadol y Gweinidog yn ddefnyddiol iawn, a gofynnodd a fyddai modd rhannu’r sylwadau hyn ar ôl y cyfarfod. Pan fo’r Gweinidog yn dweud y bydd yn dechrau’r broses gaffael tua diwedd y flwyddyn, a yw hi’n sôn am yr agwedd gymunedol ar y rhaglen neu’r cynllun a arweinir gan alw hefyd (dywedodd y Gweinidog yn flaenorol y byddai’r broses gaffael ar gyfer yr ail agwedd rhain yn mynd rhagddi, ac y byddai’r rhaglen yn weithredol, cyn y gaeaf nesaf) ? Roedd hi am gael eglurhad o’r llinellau amser, gan gynnwys yr amserlen ar gyfer cyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth. Dywedodd y Gweinidog y byddai’r Rhaglen Cartrefi Clyd yn ymgorffori’r ddwy agwedd, gyda mwy o ffocws ar alinio â datgarboneiddio ochr yn ochr â thlodi tanwydd. Mae’r holl ddeddfwriaeth angenrheidiol wedi’i chyflwyno.

•           Tim Thomas (Propertymark): Soniodd y Gweinidog am waith sydd ar y gweill gyda’r Banc Datblygu i ddarparu cyllid ar gyfer y sector perchen-feddianwyr. Yng ngoleuni’r safonau gofynnol effeithlonrwydd ynni gofynnol arfaethedig yn y sector hwn, a allai’r Gweinidog ddarparu mwy o fanylion? Nid oedd y Gweinidog yn gallu rhannu mwy o fanylion ar hyn o bryd gan fod cyhoeddiad ar ddod, ond bydd yn anfon y wybodaeth berthnasol unwaith y caiff ei rhyddhau.

•           Jo Harry (Gofal a Thrwsio Cymru): A fydd iteriad newydd y Cynllun Cartrefi Clyd yn dileu'r trothwy ar gynilion ar gyfer pobl dros 75 oed? A all y Gweinidog egluro’r rheswm am y terfyn oedran? Cafwyd cadarnhad gan y Gweinidog y byddai’n rhoi ateb dilynol.

•           Lindsey Kearton (Cyngor ar Bopeth Cymru): A fydd y cap ar gostau yn cael ei gynyddu i alluogi dull aml-fesur? Cafwyd cadarnhad gan y Gweinidog y byddai’n rhoi ateb dilynol.

•           Jack Wilkinson-Dix (Ymddiriedolaeth Arbed Ynni): Ai bwriad y Gweinidog yw y bydd y Cynllun Cartrefi Clyd newydd yn parhau i ganolbwyntio ar gefnogi’r achosion gwaethaf o dlodi tanwydd yn yr eiddo lleiaf effeithlon? A fydd elfennau ynghylch effeithlonrwydd ynni yn parhau i gael eu hymgorffori yn y cynllun prydlesu sector preifat? Atebodd y Gweinidog y bydd yn rhannu mwy o fanylion am y cynllun prydlesu â’r grŵp maes o law. Hefyd, cafwyd cadarnhad ganddi y bydd hi hefyd yn rhannu ei sylwadau agoriadol â'r Grŵp a gofynnodd i'r Cadeirydd ei hatgoffa o'r gwahanol gamau dilynol y cytunodd iddynt.

•           Bethan Sayed (Climate Cymru): Ar wahân i lythyrau, a oes unrhyw lwybrau arall ar gael i ddylanwadu ar bolisi ynghylch mesuryddion rhagdalu? Tynnodd sylw at bwerau'r Gweinidog o ran tai cymdeithasol a'r gyfran uchel o fesuryddion rhagdalu mewn tai cymdeithasol. Dywedodd y Gweinidog ei bod yn awyddus i gael sgwrs hirach i sicrhau ei bod yn gwneud popeth o fewn ei gallu i helpu a gofynnodd i Bethan godi hyn gyda hi neu’r Gweinidog  Cyfiawnder Cymdeithasol all-lein.

 

5.         Ymgyrch Bwyd a Thanwydd

 

•           Y Parchedig James Tout (ar ran y Parchedicaf Andrew John, Archesgob Cymru ac Esgob Bangor, yr Eglwys yng Nghymru): Cafwyd diweddariad ar yr Ymgyrch Bwyd a Thanwydd, a gyflwynwyd i ymdrin â’r argyfyngau o ran bwyd a thanwydd. Y tri phrif amcan yw:

 

o          Hwyluso gweddi - cynigiodd yr Eglwys lyfryn o weddïau i gefnogi’r bobl hynny sy’n dymuno gweddïo;

o          Anfon llythyr agored at archfarchnadoedd – a oedd yn cynnwys galwadau i ostwng prisiau nwyddau sylfaenol a nwyddau hanfodol; lleihau gwastraff bwyd drwy gyfrannu at fanciau bwyd; adolygu cost isafswm archebion a thaliadau dosbarthu; a chynyddu cyflogau gweithwyr; a

o          dosbarthu blychau o nwyddau hylendid (yn aml yn fater cudd sy’n destun cryn dipyn o stigma) - rhoddodd pob cynulleidfa 10 bocs o gynhyrchion hylendid at ei gilydd.

 

•           Mae’r Eglwys wedi cydweithio â chynlluniau a sefydliadau cysylltiedig sy’n gweithio i liniaru effeithiau tlodi bwyd a thlodi tanwydd. Maent wedi cynnal ymgyrchoedd ar y cyfryngau cymdeithasol ac wedi defnyddio ymddangosiadau’r Archesgob ar ITV a’r BBC i atgyfnerthu’r angen am gymorth o ran bwyd a thanwydd.

•           Mark Isherwood AS (Cadeirydd): Cadarnhaodd fod Archesgob Cymru wedi dod ato i drafod y materion hyn, ac ailadroddodd y byddai'n ymateb yn yr un modd pe bai unrhyw arall am gysylltu ag ef i drafod materion tebyg.

•           William Jones (Cyngor ar Bopeth Ceredigion): Beth oedd yr ymateb i'r llythyr agored at archfarchnadoedd? Dywedodd y Parchedig fod 10 o'r 11 o archfarchnadoedd y cysylltwyd â hwy wedi ymateb, gyda llawer yn fodlon ymgysylltu ar y materion dan sylw, er ei bod yn anodd gwybod beth oedd gwir effaith yr ymgyrch.

•           Jack Wilkinson-Dix (Ymddiriedolaeth Arbed Ynni): A oes unrhyw gynlluniau ar gyfer ymgyrchoedd eraill neu ddulliau amgen? Atebodd y Parchedig fod yr Eglwys yn gynyddol yn mynnu dweud ei dweud am effeithiau amgylcheddol (a'r ffordd y mae’r effeithiau hyn yn gorgyffwrdd â thlodi tanwydd). Mae'r Archesgob yn awyddus i'r Eglwys gael rôl yn y 'sffêr seciwlar', gan chwarae ei rhan i gefnogi achosion.

 

6.         Unrhyw fater arall

 

•           William Jones (Cyngor ar Bopeth Ceredigion): Mynegodd bryderon am golli Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf yn 2023/24 yng Nghyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru. Ben Saltmarsh (NEA): Cadarnhaodd fod y mater hwn yn cael ei godi (gan Gyngor ar Bopeth yn ogystal â sefydliadau eraill) drwy sianeli amrywiol. Mae'n amlwg y bydd y galw yn dal i fod yno y gaeaf nesaf, a'r prif bwynt yw sut y bydd yr arian hwn yn cael ei godi o fewn y gyllideb sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, o ystyried mai cost y Cynllun presennol yw £90 miliwn. Roedd yn croesawu unrhyw safbwyntiau a syniadau a oedd yn dod i law, a byddai’n eu trosglwyddo i Lywodraeth Cymru fel rhan o’r gwaith ymgysylltu parhaus. Sioned Williams (AS): Dywedodd fod y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn cynnal cyfarfod y prynhawn hwnnw i wneud gwaith dilynol ar yr ymchwiliad i ddyled a gynhaliwyd y llynedd, gan gynnwys edrych ar effaith colli Cynllun Cymorth Tanwydd Cymru.

•           Ben Saltmarsh (National Energy Action): Gofynnodd am eglurhad ynghylch barn y grŵp ar amserlen arfaethedig y Gweinidog ar gyfer y Cynllun Cartrefi Clyd nesaf - a fydd y cynllun Nyth newydd yn weithredol erbyn y gaeaf (fel y dywedodd y Gweinidog yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Tachwedd), neu a fydd y gwaith caffael ar gyfer y Rhaglen gyfan (gan gynnwys y dull a arweinir gan alw a’r dull cymunedol/ardal) yn cael ei wneud yn ddiweddarach yn y flwyddyn, a fydd yn debygol o arwain at oedi? Trafododd y grŵp y materion hyn ond ni ddaeth i unrhyw gasgliadau; bydd Mark yn dilyn hyn i fyny gyda'r Gweinidog.

•           Rob King (Sefydliad Bevan): Tynnodd sylw at yr adroddiad diweddar, Cipolwg ar Dlodi yn ystod y Gaeaf (2023), sy’n ymdrin â’r sefyllfa o ran tlodi yng Nghymru ac sy’n cynnwys ystadegau sy’n dangos sut mae'r argyfwng yn cael yr effaith fwyaf ar y bobl fwyaf ymylol a bregus.

•           Meilyr Tomos (Cyngor Gwynedd): Mae'r rhan fwyaf o'r gwersi yn debygol o ddeillio o’r gwaith ar y cynllun ôl-osod er mwyn optimeiddio – a yw hyn yn cynrychioli stoc tai Cymru yn ehangach, o gofio bod 60 y cant o’r tai wedi’u hadeiladu cyn 1990?

•           Becky Ricketts (Gofal a Thrwsio Cymru): Mae Gofal a Thrwsio wedi llunio adroddiad, Cyflwr Tai Pobl Hŷn yng Nghymru, sy’n edrych ar adfeiliad tai a wynebir gan bobl hŷn sy’n berchen-feddianwyr.

•           Jo Harry (Gofal a Thrwsio Cymru): Cyfeiriodd y Gweinidog at ddefnyddio asesiadau ôl-osod unigol yn hytrach na defnyddio Tystysgrifau Perfformiad Ynni, gan nodi ei bod yn croesawu hyn. Fodd bynnag, o ystyried bod y rhan fwyaf o'r cleientiaid yn byw mewn eiddo traddodiadol hŷn, mae ganddynt ddiddordeb mewn deall sut mae hyn yn berthnasol i stoc hŷn o ystyried bod y rhan fwyaf o waith ôl-osod ar gyfer optimeiddio yn cael ei wneud ar adeiladau mwy newydd.

•           Ben Saltmarsh (National Energy Action): Cyhoeddodd mai’r nod yw cynnal cyfarfod o’r grŵp trawsbleidiol yn bersonol ar sail hybrid yn y dyfodol.

 

Camau gweithredu dilynol

 

•           Cytunodd y Gweinidog Newid Hinsawdd i:

 

o          ddosbarthu copi o'i sylwadau agoriadol;

o          rhoi gwybod a fydd y cynllun effeithlonrwydd ynni newydd a arweinir gan alw ac sy’n canolbwyntio ar gartrefi mewn tlodi tanwydd (i ddisodli Nyth) yn:

 

▪           dileu'r trothwy ar gynilion sy’n berthnasol i bobl dros 75 oed;

▪           cynyddu’r cap ar gostau fesul eiddo i ganiatáu ar gyfer dull gweithredu lluosog;

 

o          cylchredeg manylion y cynllun prydlesu sector preifat.